O’r 1af Ionawr 2016, rwyf wedi bod yn gweithio'n llawrydd fel Cwmni2, cwmni yr wyf wedi'i sefydlu er mwyn cynnig gwasanaethau a chymorth prosiect yn seiliedig ar 38 o flynyddoedd o brofiad o fewn llywodraeth leol yng Nghymru.
Yn gynyddol ers 1998 mae’r gwaith hynny wedi arbenigo ar faterion Iaith Gymraeg a Chydraddoldeb, yn fy rôl fel swyddog polisi corfforaethol llywodraeth leol.
Rwyf ar gael i gynnal gwaith prosiect llawrydd penodol ar gyfer y sectorau cyhoeddus, iechyd, gwirfoddol a phreifat, yn eich cefnogi wrth ddelio â’r un math o waith Iaith Gymraeg a Chydraddoldeb, dan ddeddfwriaeth berthnasol.
Credaf fy mod wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y meysydd hyn yn ystod fy ngyrfa ac rwyf wedi ennill enw da gyda fy nghydweithwyr o fewn sefydliadau amrywiol am fod yn berson arloesol, ymarferol a dibynadwy.
Mae fy ngwaith ar-fynd yn y meysydd hyn wedi fy ngalluogi i barhau i ddatblygu cysylltiadau ledled Cymru gyda nifer fawr o ymarferwyr ymrwymedig eraill, ym mhob sector.
Mae'r meysydd gwaith lle y gallaf gynnig cefnogaeth a chyngor prosiect wedi cael eu rhestru yn fwy manwl fel adrannau unigol ar y wefan hon, ond mae'r ddogfen pdf isod yn CV cryno o fy addysg, gyrfa a sgiliau, er gwybodaeth.
Cysylltwch â fi os hoffech drafod unrhyw brosiectau penodol sydd gennych - gellir dod o hyd i’r manylion cyswllt yma.
Dai Thomas
8fed Medi 2023