Gall Cwmni2 gynnig ystod o waith cymorth o ran cydymffurfiaeth fewnol sefydliadau â materion Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg cyfredol.
Gall Cwmni2 eich darparu â fersiwn gweithredol dwyieithog er mwyn i chi ei ddefnyddio fel drafft ymgynghorol yn eich sefydliad er enghraifft, a allai’ch helpu i gyflawni targedau Cydraddoldeb a’r Gymraeg yn gyflym, os nad oes gennych y gallu i wneud hynny yn hawdd o fewn eich sefydliad eich hun. Neu fell arall, gall Cwmni2 roi sylwadau ymgynghori ar fersiynau drafft os oes angen barn allanol arnoch.
Mae'r cymorth ymgynghoriaeth hwn yn cynnwys y meysydd canlynol:
Polisïau a Strategaethau
Drafftio a pharatoi polisïau, strategaethau ac adroddiadau cynnydd blynyddol Cydraddoldeb a'r Gymraeg ar gyfer y sector cyhoeddus -
​
-
Adroddiadau Gwella a Monitro Blynyddol ar faterion Cydraddoldeb a'r Gymraeg
-
Strategaethau Sgiliau Ieithyddol
-
Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol
-
Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg
-
Asesiadau Effaith (gan sicrhau sylw dyledus i faterion Cydraddoldeb a'r Gymraeg)
Dogfennau Canllaw
Drafftio a pharatoi canllawiau staff mewn perthynas â materion
Cydraddoldeb a'r Gymraeg -
-
Canllaw Digwyddiadau Hygyrch
-
Canllaw Pleidleisio Hygyrch
-
Canllaw Ymgynghori a Monitro
-
Canllaw Delio â Chwynion
-
Canllaw Dylunio ac Argraffu
-
Canllaw Asesiadau Effaith
-
Canllaw Landlordiaid (Cymdeithasol a Phreifat)
-
Canllaw Caffael a Chomisiynu
-
Canllaw Arwyddion
-
Canllaw Cyfieithu Iaith Gymraeg
-
Canllaw Enwau Lleoedd Cymraeg
Y nod gyda'r dogfennau canllaw yw bob amser i ddod â'r gofynion deddfwriaethol a dyletswyddau statudol i lawr i lefel ymarferol, fel y gall aelodau staff unigol mewn sefydliad cyflawni eu gwaith dydd i ddydd mewn ffordd sy'n ymgorffori egwyddorion Cydraddoldeb a'r Gymraeg.
Rheoli Perfformiad
Mae Rheoli Perfformiad yn cefnogi'r sefydliad cyfan i berfformio ar ei orau ac yn darparu'r amgylchedd cywir ar gyfer llwyddiant a thwf creadigol. Mae hefyd yn rhan allweddol o sicrhau bod sefydliadau'n gweithio o fewn y fframwaith rheoleiddio sy'n llywodraethu cymaint o'r sectorau cyhoeddus, iechyd a gwirfoddol er enghraifft, ac felly mae'n rhan hanfodol o lywodraethu corfforaethol cyffredinol y sefydliad.
Gall Cwmni2 gynnig cyngor a chymorth ymarferol o ran lle mae materion Cydraddoldeb a'r Gymraeg yn cyd-fynd â fframwaith Rheoli Perfformiad eich sefydliad, yn seiliedig ar flynyddoedd lawer o brofiad o brif ffrydio'r meysydd hyn o fewn fframweithiau amrywiol llywodraeth leol.
​
Systemau Cwyno a Datrys Cwynion
Mae gan Gwmni2 dros 22 mlynedd o brofiad o ddelio â chwynion sydd ag agweddau Cydraddoldeb a'r Gymraeg arnynt, yn fewnol o fewn sefydliad, a hyd at, a gan gynnwys lefel Ymchwiliadau Statudol Comisiynydd y Gymraeg a chwynion a oedd wedi codi i lefel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae Cwmni2 felly'n gallu darparu cymorth mewn nifer o ffyrdd:
-
Darparu archwiliad cyfrinachol a diduedd o ran cwynion neu ymatebion i gwynion gyda chyngor, adborth ac awgrymiadau ymarferol, gan hefyd ystyried gofynion Diogelu Data a RhDDC;
-
Datblygu ffurflenni a phrosesau cwynion effeithiol er mwyn i sefydliadau gofnodi a monitro'r materion hyn yn briodol, yn unol â gofynion deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol Cydraddoldeb a Safonau'r Gymraeg;
-
Darparu'r uchod yn gwbl ddwyieithog lle bo angen.
​
Er y byddai'r cyngor a roddir yn seiliedig ar flynyddoedd lawer o brofiad o ddelio â chwynion sy'n cynnwys materion Cydraddoldeb a/neu'r Gymraeg, nodwch fod pob cwyn yn unigryw ac nid oes sicrwydd y byddai'r honiad neu'r amddiffyniad yn llwyddiannus.


Os yw'r honiad o natur ddifrifol, dylech bob amser ofyn am gyngor cyfreithiol oddi wrth gyfreithiwr arbenigol proffesiynol, neu os ydych yn amddiffyn honiad, oddi wrth eich swyddog cyfreithiol neu dîm eich hun. Nid yw cymorth Cwmni2 mewn achosion o'r fath i fod i gael ei gymryd fel dewis amgen i'r rhain, dim ond fel cyngor annibynnol ychwanegol yn y mater penodol dan sylw.
Cysylltu
Cysylltwch â dai@cwmni2.cymru os oes gennych unrhyw ofynion ymgynghoriaeth yn seiliedig ar y wybodaeth uchod.