top of page

Mae'r wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig, ynghylch gweithredoedd Cwmni2 a'r gwasanaethau y gall ei ddarparu. Mae'r wybodaeth yn cael ei gwirio'n rheolaidd o ran cywirdeb ac yn cael ei chadw’n gyfredol.

Gwneir pob ymdrech i gadw'r wefan ar waith ac yn rhedeg yn esmwyth. Fodd bynnag nid yw Cwmni2 yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am, ac ni fydd yn atebol am, argaeledd y wefan oherwydd materion technegol tu hwnt i'w rheolaeth.

Mae unrhyw ddibyniaeth a roddwch ar waith a gwasanaethau Cwmni2 ar eich risg eich hun a rhaid i'r union amodau a thelerau cael eu cynnwys o fewn unrhyw gytundeb contract.


Yswiriannau

Mae gan Gwmni2 yswiriant Indemniad Proffesiynol ac Atebolrwydd Cyhoeddus ar hyn o bryd gyda Zurich Municipal, drwy gwmni MFL Professional Insurance Brokers.

Mae Cwmni2 yn unig gyflogai/Cyfarwyddwr, felly nid oes unrhyw weithiwr arall ar wahân i Gyfarwyddwr y Cwmni, sydd hefyd yn llwyr berchen ar y cwmni. Nid yw Cwmni2 yn is-gontractio unrhyw waith i drydydd parti.

Mae Cwmni2 felly wedi eithrio rhag gorfod cael Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr mewn lle o dan Ddeddf Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1969 gan fod eithriadau’n cynnwys - "cwmnïau sy'n cyflogi dim ond eu perchennog, lle mae’r cyflogai hwnnw hefyd yn berchen ar 50% neu fwy o'r cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd yn y cwmni".


Datganiad Cydraddoldeb y Cwmni

Mae'r ddogfen pdf isod yn nodi ymrwymiad Cwmni2 i weithredu mewn ffordd nad yw'n gwahaniaethu ym mhob agwedd ar ei waith.

 

Ymwadiad ac Yswiriannau
bottom of page