top of page

Bwriad y wybodaeth a restrir isod, yn gyfredol o fis Medi 2023 ymlaen, yw bod yn arweiniad cyffredinol o ran costau ar gyfer gwaith a gomisiynwyd yn uniongyrchol, ac yn sail i gostau ar gyfer ceisiadau tendr a fframweithiau.

 

Mae Cwmni2 yn hapus i drafod costau ar brosiectau penodol gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus, iechyd, gwirfoddol a phreifat yng Nghymru.

 

Bydd angen cytuno amser terfyn a dychwelyd ar eitemau o waith unigol o flaen llaw, er mwyn bodloni gofynion y cwsmer a chapasiti Cwmni2 ar y pryd.



Cyfieithu a Phrawf-ddarllen
 

£60.00 fesul 1000 gair - ni chodir unrhyw gostau prawf-ddarllen ychwanegol ar waith a gyflwynir i Gwmni2 ar gyfer cyfieithu, fodd bynnag os oes angen prawf-ddarllen gwaith nad oedd wedi'i gyfieithu Gwmni2, codir tâl ar y ddogfen ar yr un gyfradd cyfrif geiriau, ac am y cyfrif geiriau llawn.

 

Gall Cwmni2 dderbyn ffeiliau mewn fformatau Word, Excel, PowerPoint a Publisher, neu geisiadau bach fel testun o fewn e-bost (negeseuon cyfryngau cymdeithasol er enghraifft).

 

Gellir derbyn ffeiliau PDF nad ydynt yn olygadwy hefyd, ond efallai y bydd angen dyddiad cau hirach arnynt gan fod angen eu trosi ac yna ail-fformatio'r cyfieithiad terfynol.

 

Gellir cyfieithu ffeiliau HTML er y bydd angen trafod hyn ymhellach ar brosiectau unigol.



Gwaith Polisi

Gall gwaith polisi gynnwys datblygu neu ddiweddaru cynlluniau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a strategaethau’r Gymraeg, a chynlluniau gweithredu neu asesiadau effaith cysylltiedig. Costau Cwmni2 yw £500 y dydd am ddarparu gwaith polisi, sy'n cynnwys darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog gan weithredu fel cymorth proffesiynol ac "ail farn" ar faterion yn ymwneud â gweithredu darpariaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a/neu’r Gymraeg o fewn sefydliad - ewch i dudalen Ymgynghoriaeth ar Gydraddoldeb a'r Gymraeg am fanylion llawn am y gwasanaethau a gynigir. Gellir trafod telerau pro rata hefyd.


Anfonebu a Thalu

Oni bai ei fod yn cael ei bennu fel arall gan systemau talu'r sefydliad ei hun, bydd Cwmni2 yn anfonebu ar gyfer y gwaith polisi ar gyflawni'r gwaith hwnnw, neu ar ddiwedd pob mis calendr ar gyfer gwaith cyfieithu'r mis hwnnw.  Gall dyddiadau talu dyledus amrywio felly, ond ni fyddant yn hwyrach na 31 diwrnod yn dilyn dyddiad yr anfoneb.

​

​

Statws IR35

 

Mae'r PDF isod yn amlinellu statws IR35 Cwmni2, y bydd angen i gleientiaid ei gadarnhau cyn i unrhyw gytundeb ymgynghori neu gyfieithu dechrau.

Costau a Thelerau
bottom of page